Edith ElvinaEDWARDSDymuna Mrs Anita Probert a'i theulu, Rhoslan, 214 Brecon Rd, Penrhos, Ystradgynlais, ddiolch yn gywir iawn i'r holl berthnasau, cyfeillion a chymdogion am bob datganiad o'u cydymdeimlad, y llu llythyrau, cardiau a rhoddion i Visual Impairment Breconshire a dderbyniwyd ganddynt adeg eu profedigaeth. Diolchiadau didwyll i swyddogion Capel Sardis am gael cynnal y gwasanaeth angladdol yno, i'r Parchedig Richard Jones a'r Parchedig Dewi Myrddin Hughes am wasanaethu, i'r organydd a'r cludwyr am eu caredigrwydd, ac i bawb a ddaeth i'r angladd.
Keep me informed of updates